Grŵp Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
Economy, Skills and Natural Resources Group
Nick Ramsay AC
Cadeirydd Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd |
|
Caerdydd |
Eich Cyf/Your Ref: |
CF99 1NA
|
Ein Cyf/Our Ref: |
23 Mai 2018
Annwyl Gadeirydd
Heriau Digidoleiddio
Diolch am eich llythyr ar 25 Ebrill yn gofyn am fwy o fanylion yn dilyn fy llythyr atoch ar 4 Ebrill
2018. I hwyluso pethau, rwyf wedi nodi pob un o’ch cwestiynau isod ynghyd â fy ymateb.
Cwestiwn 1 - Mae'r Pwyllgor yn nodi'r manylyn yn eich ymateb ynglŷn â sut y mae
Llywodraeth Cymru yn defnyddio fframweithiau Digidol, Data a Thechnoleg (DDat) Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS). Fodd bynnag, hoffem gael mwy o fanylion ynghylch pam nad yw gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn mabwysiadu'r ymagwedd fwy hyblyg a ddefnyddir gan y GIG yn Lloegr, yn enwedig, neu'r sector digidol yn Llywodraeth y DU. Rydym yn pryderu bod llawer o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio contractau caffael traddodiadol mawr, gyda chyfnod oedi hir cyn cyflwyno'r contractau, ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymbellhau o'r dull hwn, byddem wedi disgwyl i weddill y sector cyhoeddus yng Nghymru ddilyn y confensiwn hwnnw.
Cafodd y fframwaith Digital Outcomes and Specialists (DOS) ei gyflwyno ym mis Chwefror
2016. Mae crynodeb o gyfanswm y gwariant ar bob Lot drwy’r DOS ers y dechrau i’w weld yn y tabl canlynol, a hynny ar gyfer holl sefydliadau’r Deyrnas Unedig gan gynnwys Sector Cyhoeddus Cymru (hyd at 31 Rhagfyr 2017):
Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.
We welcome receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.
Ffôn ●Tel 03000 256162
Andrew.Slade@gov.wales
Parc Cathays ●Cathays Park Gwefan ● website: www.llyw.cymru
Caerdydd ●Cardiff www.gov.wales
CF10 3NQ
|
Canlyniadau Digidol |
Arbenigwyr Digidol |
Cyfranogwyr Ymchwil Defnyddwyr |
Stiwdios Ymchwil Defnyddwyr |
|
% o’r cyfanswm |
Llywodraeth Ganolog y Deyrnas Unedig |
£110,022,397 |
£69,457,717 |
£805,371 |
£1,384,817 |
£181,670,302 |
88.7% |
Y Gweinyddiaethau Datganoledig (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) |
£8,063,925 |
£473,006 |
|
|
£8,536,931 |
4.2% |
Addysg (Lloegr) |
£241,345 |
£135,066 |
|
|
£376,412 |
0.2% |
Tân ac Achub (y Deyrnas Unedig) |
£49,583 |
£347,132 |
|
|
£396,715 |
0.2% |
Iechyd (Lloegr) |
£3,575,461 |
£3,518,408 |
|
|
£7,093,869 |
3.5% |
Llywodraeth Leol (Lloegr) |
£3,524,622 |
£529,760 |
|
|
£4,054,382 |
2.0% |
Ddim er Elw |
£530,573 |
£202,657 |
£8,270 |
|
£741,500 |
0.4% |
Yr Heddlu (Y Deyrnas Unedig) |
£217,253 |
£1,278,625 |
|
|
£1,495,878 |
0.7% |
Y Sector Preifat |
£40,750 |
£434,981 |
|
|
£475,731 |
0.2% |
Cyfanswm |
£126,265,910 |
£76,377,353 |
£813,641 |
£1,384,817 |
£204,841,720 |
|
|
61.6% |
37.3% |
0.4% |
0.7% |
|
|
Ffynhonnell: Gwasanaeth Masnachol y Goron
Nodyn: Mae’r gwerthoedd o fewn y data gwreiddiol wedi’u talgrynnu i fyny / i lawr
Adrannau Canolog y Llywodraeth sy’n gyfrifol am fwyafrif y gwariant drwy’r DOS. Nid yw hyn yn annisgwyl, oherwydd cyn creu Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig (GDS), roedd gan nifer o Adrannau’r Llywodraeth Ganolog fodelau ar gyfer cyflenwi drwy gontractau allanol. Wrth i dechnoleg newid ac wrth ddefnyddio mwy ar y cwmwl digidol, mae’r modelau cyflenwi hyn wedi dechrau newid i fod yn fodelau sy’n cyflenwi drwy ddarpariaeth luosog. Mae newid y model cyflenwi a’r galw am wasanaethau digidol newydd wedi golygu bod angen ffordd newydd ar Adrannau’r Llywodraeth Ganolog a sefydliadau eraill i gaffael sgiliau a galluoedd os oeddent wedi arfer defnyddio model contractau allanol. Yn hanesyddol, bu gan Lywodraeth Cymru hefyd fodel contractau allanol traddodiadol, ond mae hithau'n symud tuag at fodel sy’n cyflenwi drwy ddarpariaeth luosog.
Ar y llaw arall, nid yw Sector Cyhoeddus Cymru wedi dibynnu ar gontractau allanol traddodiadol. Yn draddodiadol, bu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Awdurdodau Lleol dimau mewnol, gan ffafrio bod â mwy o reolaeth dros eu rhaglenni a’u prosiectau. Mae’r sefydliadau hyn hefyd wedi gallu defnyddio contractau a oedd yn bodoli’n barod i gael gafael ar sgiliau a fyddai’n ychwanegu at eu gallu mewnol. Mae hyn i ryw raddau’n esbonio’r gwahaniaeth yn y ganran.
O ran eich pryder bod nifer o wasanaethau cyhoeddus Cymru yn parhau i ddefnyddio contractau caffael traddodiadol mawr, gyda chyfnod oedi hir cyn cyflwyno’r contractau, mae angen i gyrff Sector Cyhoeddus Cymru sicrhau bod eu polisïau caffael yn cydymffurfio â Rheoliadau'r UE a Datganiad Polisi Caffael Cymru. Serch hynny, mae rhwydd hynt iddynt ddilyn eu prosesau caffael eu hunain os gallant ddangos tystiolaeth o werth am arian i’r trethdalwr. Nid oes gan Lywodraeth Cymru hawl i ragnodi dull caffael penodol nac ymyrryd mewn penderfyniadau caffael lleol. Os yw’r Pwyllgor yn pryderu am benderfyniadau caffael unigol, byddem yn fodlon ystyried y rhain yn benodol.
Cwestiwn 2 - Byddem yn croesawu manylion pellach ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r fframwaith Digital Outcomes and Specialists ac, yn enwedig, y dadansoddiad o'r gwariant G-Cloud. Hoffem gael gwybodaeth am sut y mae'r rhain yn gymwys i sector cyhoeddus Cymru yn fwy cyffredinol, yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn unig.
Mae pedair elfen i’r fframwaith DOS:
1. Canlyniadau digidol. (Cyflenwyr sy’n gallu darparu timau o arbenigwyr i wneud gwaith sy’n seiliedig ar ganlyniadau.)
2. Arbenigwyr digidol. (Cyflenwyr sy’n gallu darparu arbenigwyr unigol i weithio ar wasanaeth, rhaglen neu brosiect).
3. Stiwdios ymchwil defnyddwyr
4. Cyfranogwyr ymchwil defnyddwyr
Mae’r tabl isod yn cynnwys gwariant sefydliadau Sector Cyhoeddus Cymru drwy’r DOS rhwng mis Chwefror 2016 (pan ddechreuwyd defnyddio’r DOS) a 31 Rhagfyr 2017:
|
Canlyniadau Digidol |
Arbenigwyr Digidol |
Cyfranogwyr Ymchwil Defnyddwyr |
Stiwdios Ymchwil Defnyddw yr |
Cyfanswm |
Llywodraeth Cymru |
£1,479,160 |
|
|
|
£1,479,160 |
Gyrfa Cymru |
|
£87,720 |
|
|
£87,720 |
Cyfoeth Naturiol Cymru |
£41,467 |
|
|
|
£41,467 |
Cymwysterau Cymru |
|
£33,750 |
|
|
£33,750 |
Cyfanswm |
£1,520,627 |
£121,470 |
|
|
£1,642,097 |
Ffynhonnell: Gwasanaeth Masnachol y Goron
Nodyn: Mae’r gwerthoedd o fewn y data gwreiddiol wedi’u talgrynnu i fyny / i lawr
Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r elfen ‘Canlyniadau digidol’ yn y fframwaith i ddarparu rhannau allweddol o wasanaethau digidol Awdurdod Cyllid Cymru. Mae hefyd wedi defnyddio ‘Stiwdios ymchwil defnyddwyr’ ar gyfer gwefan Dysgu Cymru, ond nid yw hyn wedi’i adlewyrchu eto yn nata Gwasanaeth Masnachol y Goron. Nid yw ‘Arbenigwyr digidol’ wedi’u defnyddio hyd yma gan ein bod wedi bod yn defnyddio’r contractau presennol sy’n dal i fodoli.
Mae G-Cloud yn fframwaith sy’n galluogi prynwyr i ddefnyddio technoleg a gwasanaethau cwmwl. Mae tabl sy’n dangos gwariant G-Cloud Sector Cyhoeddus Cymru, fesul sefydliad, i’w weld yn Atodiad A i’r llythyr hwn.
Cwestiwn 3 - Mae'r fframwaith Digital Outcomes and Specialists yn galluogi i wasanaeth cyhoeddus Cymru weithio'n fwy deinamig, drwy ddefnyddio arbenigwyr er enghraifft. Gofynnwn ichi roi mwy o eglurder ynghylch sut y gellid rhoi hyn ar waith ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae datblygu’r gallu i brynu a newid ymddygiad wrth brynu yn rhan bwysig o’r ymdrech i gynyddu’r defnydd o’r DOS a fframweithiau priodol eraill yn Sector Cyhoeddus Cymru. Ysgrifennais atoch ar 23 Ebrill 2018 ynghylch yr adolygiad sy’n mynd rhagddo o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Er nad oes gan Lywodraeth Cymru hawl i ragnodi dull caffael penodol nac ymyrryd mewn penderfyniadau caffael lleol, mae rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud â chapasiti a gallu caffael cyffredinol drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn rhan hollbwysig o’r adolygiad, ac o’r hyn a fydd yn deillio o’r adolygiad hwnnw.
Mae’r DOS yn ddull gwerthfawr o gaffael, ond nid yw’n addas ar gyfer pob sefyllfa ac rydym hefyd wedi sylweddoli bod angen inni helpu i bontio’r bylchau rhwng prynwyr a chyflenwyr. Yn fy llythyr ar 4 Ebrill 2018, cyfeiriais at y gwaith rydym wedi’i wneud i ymgysylltu â’r farchnad. Rydym yn gweithredu ar sail yr adborth hwn er mwyn i fusnesau bach a chanolig eu maint o
Gymru gael llwybr rhwydd a chyflym i’r farchnad pan fydd angen adnoddau ar Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer prosiectau bychain. Mae gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol raglen gaffael sydd bellach ar agor ar gyfer tendrau.
Yn olaf, dywedwch yn eich llythyr y gallech ofyn imi roi tystiolaeth lafar am heriau digidoleiddio yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 4 Mehefin, sef cyfarfod y byddaf yn dod iddo er mwyn trafod y gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru. Rwyf wrth gwrs yn barod i roi tystiolaeth ar yr elfennau hynny sy’n ymwneud â thrawsnewid digidol sy’n berthnasol i fy Ngrŵp, a’r rheini y mae gennyf gyfrifoldeb drostynt fel Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol. Serch hynny, bydd y Pwyllgor yn deall nad oes gennyf gyfrifoldeb ehangach dros drawsnewid digidol ar draws Llywodraeth Cymru. O’r herwydd, ni ddylwn geisio rhoi tystiolaeth mewn meysydd nad oes gennyf gyfrifoldeb drostynt fel Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol.
Gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol.
Yn gywir
Andrew Slade
Cyfarwyddwr Cyffredinol
Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
ATODIAD A – Manylion gwariant G-Cloud Sector Cyhoeddus Cymru
Nodyn. Mae’r gwariant ym mlwyddyn ariannol 17/18 yn golygu data rhwng mis Ebrill 2017 a mis Ionawr 2018.
|
2013/14 |
2014/15 |
2015/16 |
2016/17 |
2017/18 |
Cyfanswm |
Llywodraeth Cymru |
£111,699 |
£51,883 |
£187,856 |
£530,987 |
£602,182 |
£1,484,607 |
Heddlu Gwent |
|
£31,229 |
£117,281 |
£903,313 |
£417,149 |
£1,468,972 |
Heddlu De Cymru |
|
£163,565 |
£223,599 |
£208,717 |
£181,688 |
£777,569 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
|
|
£16,615 |
£582,200 |
£12,296 |
£611,111 |
ESTYN |
£76,392 |
£79,771 |
£82,866 |
£80,964 |
£67,968 |
£387,962 |
Cyngor Gwynedd |
|
£82,053 |
£224,887 |
£26,650 |
|
£333,591 |
Prifysgol Caerdydd |
£88,433 |
£38,600 |
£150,213 |
£5,000 |
£34,160 |
£316,406 |
Cyngor Caerdydd |
£31,247 |
|
|
£193,152 |
£24,603 |
£249,002 |
Cyngor Sir Ddinbych |
£39,000 |
£18,000 |
|
£177,665 |
|
£234,665 |
Cyngor Bro Morgannwg |
|
|
£38,184 |
£111,523 |
£80,422 |
£230,129 |
Dinas a Sir Abertawe |
£56,380 |
|
|
£115,800 |
£46,930 |
£219,110 |
Heddlu Dyfed Powys |
|
£20,441 |
£44,052 |
£125,308 |
£25,928 |
£215,729 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
£9,614 |
£9,133 |
£44,594 |
£98,556 |
£18,910 |
£180,807 |
Cyngor Sir Ceredigion |
|
|
|
£35,580 |
£125,600 |
£161,180 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
|
|
|
£129,707 |
£15,527 |
£145,234 |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
|
|
|
£91,600 |
£53,089 |
£144,689 |
Cyngor Dinas Casnewydd |
|
|
£48,700 |
|
£84,178 |
£132,878 |
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
|
|
£34,083 |
£29,657 |
£58,021 |
£121,760 |
Heddlu Gogledd Cymru |
|
|
|
£26,775 |
£88,867 |
£115,642 |
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
|
£1,700 |
£36,353 |
£35,151 |
£37,660 |
£110,863 |
Grwp Gwalia Cyf |
£76,738 |
£19,500 |
|
|
|
£96,238 |
Cyngor Sir Gâr |
|
|
|
£92,954 |
|
£92,954 |
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru |
|
|
|
£44,303 |
£43,973 |
£88,277 |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
|
£52,600 |
|
£5,935 |
£14,576 |
£73,111 |
Cyngor Sir Powys |
|
|
|
£17,790 |
£53,642 |
£71,432 |
Cyngor Sir Fynwy |
|
£4,290 |
|
£14,250 |
£51,125 |
£69,665 |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin |
|
£38,672 |
|
£16,900 |
£12,869 |
£68,441 |
Bevan |
|
|
|
|
|
|
Gyrfa Cymru |
|
£15,900 |
|
£16,400 |
£33,829 |
£66,129 |
Prifysgol Aberystwyth |
|
|
|
£57,203 |
|
£57,203 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
|
£25,285 |
£13,585 |
£8,200 |
|
£47,070 |
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru |
£3,000 |
|
|
£40,163 |
|
£43,163 |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
|
|
£11,250 |
£11,250 |
£22,500 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr |
|
|
|
£10,500 |
£10,500 |
£21,000 |
United Welsh Housing Association Limited |
|
|
|
£20,961 |
|
£20,961 |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
|
|
|
|
£18,701 |
£18,701 |
Cyngor Sir Penfro |
|
|
|
£17,790 |
|
£17,790 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
|
|
|
£17,790 |
|
£17,790 |
Swyddfa Archwilio Cymru |
|
|
|
£17,782 |
|
£17,782 |
Prifysgol Bangor |
|
|
|
£2,016 |
£12,348 |
£14,364 |
Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
|
|
|
£14,000 |
|
£14,000 |
Cyngor Celfyddydau Cymru |
|
£6,440 |
|
£707 |
£2,184 |
£9,331 |
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro |
|
|
|
|
£7,387 |
£7,387 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
|
|
|
|
£4,734 |
£4,734 |
Cymdeithas Tai Sir Fynwy |
|
£3,840 |
|
|
|
£3,840 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
|
|
£2,500 |
|
|
£2,500 |
Clwyd Alyn Housing Association Limited |
|
£2,014 |
|
|
|
£2,014 |
Wales and West Housing Association Limited |
|
|
£68 |
|
|
£68 |
Cyfanswm |
£492,503 |
£664,917 |
£1,265,434 |
£3,935,197 |
£2,252,297 |
£8,610,348 |
Ffynhonnell: Gwasanaeth Masnachol y Goron
Nodyn: Mae’r gwerthoedd o fewn y data gwreiddiol wedi’u talgrynnu i fyny / i lawr